Acts 17:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno Paul a safoð ym‐ pervedd heol Mars ac a ddyvot, A wyr Athenieit mi ach gwelaf chwi ym‐ pop peth oll yn vawr eich goglyd ar y dywie.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan sefyll o Paul ynghanol yr Areopagus, dywedodd, Atheniaid, ymhob peth y gwelaf eich bod yn dra-chrefyddol;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A safodd Paul yng nghanol yr Areopagus, a dywedyd: “Wŷr Athen, gwelaf ar bob llaw eich bod yn dra chrefyddol.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y safodd Paul yng nghanol Areopagus, ac a ddywedodd, Ha wŷr Atheniaid, mi a'ch gwelaf chwi ym mhob peth yn dra choelgrefyddol:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Paul yn sefyll ar ei draed o flaen cyngor yr Areopagus, a'u hannerch fel hyn: “Bobl Athen! Dw i'n gweld tystiolaeth ym mhobman eich bod chi'n bobl grefyddol iawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Safodd Paul yng nghanol yr Areopagus, ac meddai: "Bobl Athen, yr wyf yn gweld ar bob llaw eich bod yn dra chrefyddgar.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Phaul a gymerodd ei safle yn nghanol yr Areopagus, ac a ddywedodd, O Wyr o Atheniaid, yn mhob peth yr wyf yn eich canfod yn dra‐pharchus o'r duwiau;