Acts 17:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Cāys wrth ðyvot heibio, ac edrych ar eich glochwytae ys ceveis allor, yn yr hon yð escrivenit, IR DEO ANVVYBODEDIC. Yr hwn gan hynny eb wybot ydd ych yn ei addoly, hwnw venagaf ychwy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys wrth fyned heibio ac edrych ar wrthddrychau eich addoliad, cefais hefyd allor yn yr hon yr argraphasid I Dduw Anhyspys; yr hyn, gan hyny, yr ydych, heb ei adnabod, yn ei addoli, hyny yr wyf fi yn ei fynegi i chwi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys wrth fynd o gwmpas ac edrych ar eich cysegrfannau cefais hyd yn oed allor ag arni’n ysgrifenedig, I DDUW ANHYSBYS. Yr hyn, ynteu, a addolwch heb ei adnabod, hynny a gyhoeddaf fi i chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys wrth ddyfod heibio, ac edrych ar eich defosiynau, mi a gefais allor yn yr hon yr ysgrifenasid, I'R DUW NID ADWAENIR. Yr hwn gan hynny yr ydych chwi heb ei adnabod yn ei addoli, hwnnw yr wyf fi yn ei fynegi i chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i wedi bod yn cerdded o gwmpas yn edrych yn ofalus ar yr hyn dych chi'n ei addoli. Yng nghanol y cwbl des i o hyd i un allor oedd â'r geiriau yma wedi eu cerfio arni: I'R DUW ANHYSBYS. Dyma'r Duw dw i'n mynd i ddweud wrthoch chi amdano — yr un dych chi'n ei addoli ond ddim yn ei nabod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd wrth fynd o gwmpas ac edrych ar eich pethau cysegredig, cefais yn eu plith allor ac arni'n ysgrifenedig, 'I Dduw nid adwaenir'. Yr hyn, ynteu, yr ydych chwi'n ei addoli heb ei adnabod, dyna'r hyn yr wyf fi'n ei gyhoeddi i chwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys wrth fyned heibio a sylwi yn fanwl a'r wrthddrychau eich addoliad, mi a gefais hefyd allor, ac ynddo yr ar‐ysgrifen, I DDUW ANADNABYDDUS: yr hyn gan hyny yr ydych, heb ei adnabod, yn ei addoli, hyny yr wyf fi yn ei gyhoeddi i chwi.