Acts 17:25 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac nid addolir a dwylaw dynion, val pe bei arno eisiae dim, ac ef e yn rhoddi i bawp vywyt ac anhenetl a’ phop peth,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac nid â dwylaw dynol y gwasanaethir Ef, gan fod ag eisiau dim Arno, ac Efe yn rhoddi i bawb fywyd ac anadl a phob peth.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
nis gwasanaethir chwaith â dwylo dynol, fel pe bai arno angen dim, yr hwn a rydd ei hun i bawb fywyd ac anadl a’r cwbl oll.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac nid â dwylo dynion y gwasanaethir ef, fel pe bai arno eisiau dim; gan ei fod ef yn rhoddi i bawb fywyd, ac anadl, a phob peth oll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a dydy pobl ddim yn gallu rhoi unrhyw beth iddo — does dim byd sydd arno'i angen! Y Duw yma sy'n rhoi bywyd ac anadl a phopeth arall i bawb.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni wasanaethir ef chwaith dwylo dynol, fel pe bai arno angen rhywbeth, gan mai ef ei hun sy'n rhoi i bawb fywyd ac anadl a'r cwbl oll.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac nid gan ddwylaw dynol y gweinir iddo fel un ag eisieu dim arno yn ychwaneg, gan ei fod Efe ei hun yn rhoddi i bawb fywyd, ac anadl, a phob peth.