Acts 17:26 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac a wnaeth o’r vn gwaed oll genetl dynion y breswiliaw ar hyd wynep y ðaiar, ac a ’osodes yr amserae ar y dd aroedd ei rrac ordeiniaw a’ thervynae ei preswyl fa,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gwnaeth Efe o un bob cenedl o ddynion i breswylio ar holl wyneb y ddaear, wedi pennodi amseroedd appwyntiedig a therfynau eu preswylfod;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwnaeth hefyd o un bob cenedl o ddynion, i breswylio ar holl wyneb y ddaear, gan bennu cyfnodau gosodedig a therfynau eu preswylfod,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a wnaeth o un gwaed bob cenedl o ddynion, i breswylio ar holl wyneb y ddaear, ac a bennodd yr amseroedd rhagosodedig, a therfynau eu preswylfod hwynt;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fe ydy'r Duw wnaeth greu y dyn cyntaf, a gwneud ohono yr holl genhedloedd gwahanol sy'n byw drwy'r byd i gyd. Mae'n penderfynu am faint fydd y cenhedloedd yna'n bodoli, a lle'n union mae eu ffiniau daearyddol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaeth ef hefyd o un dyn yr holl genhedloedd, i breswylio ar holl wyneb y ddaear, gan osod cyfnodau penodedig a therfynau eu preswylfod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a wnaeth o un bob cenedl o ddynion i breswylio ar holl wyneb y ddaear, gan benderfynu adegau penodedig a therfynau eu preswylfod hwynt;