Acts 17:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
er ceisiaw o hanwynt yr Arglwydd, a byddei yddwynt gan ym balfaly y gaffael ef, cyd yn diau nad yw ef yn y pell y wrth yr vn o hanam.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
i geisio o honynt Dduw, os ysgatfydd yr ymbalfalent am Dano ac Ei gael, ond er hyny heb fod o Hono ymhell oddiwrth bob un o honom;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
i geisio ohonynt Dduw, os gallant rywfodd ymbalfalu amdano a’i gael, ac yntau’n wir heb fod nepell oddiwrth neb un ohonom.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel y ceisient yr Arglwydd, os gallent ymbalfalu amdano ef, a'i gael, er nad yw efe yn ddiau nepell oddi wrth bob un ohonom:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwnaeth hyn i gyd er mwyn iddyn nhw geisio dod o hyd iddo, ac estyn allan a'i gael. A dydy e ddim yn bell oddi wrthon ni mewn gwirionedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oeddent i geisio Duw, yn y gobaith y gallent rywfodd ymbalfalu amdano a'i ddarganfod; ac eto nid yw ef nepell oddi wrth yr un ohonom.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
fel y ceisient Dduw, os, hwyrach, yr ymbalfalent am dano ac y caent ef: ac yn wir nid yw efe yn mhell oddiwrth bob un o honom ni: