Acts 17:29 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ chan ein bot yn genedlaeth Dew, ny ddlem ni dybio vot y Dywdot yn debic i aur, ai ariant, ai y vaen wedy ei lluniaw drwy gelfyddyt a’ dychymic dyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan fod o honom, gan hyny, yn hiliogaeth Duw, nis dylem feddwl mai i aur neu arian neu faen, cerfiad celfyddyd a dychymmyg dyn, y mae’r Duwdod yn debyg.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A ni, felly, yn hiliogaeth Duw ni ddylem dybied bod y Duwdod yn debig i aur neu arian neu faen, gwaith nadd celfyddyd a dychymyg dyn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan ein bod ni gan hynny yn hiliogaeth Duw, ni ddylem ni dybied fod y Duwdod yn debyg i aur, neu arian, neu faen, o gerfiad celfyddyd a dychymyg dyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Felly, os ydyn ni'n blant Duw, ddylen ni ddim meddwl amdano fel rhyw ddelw o aur neu arian neu faen — sef dim byd ond cerflun wedi ei ddylunio a'i greu gan grefftwr!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os ydym ni, felly, yn hiliogaeth Duw, ni ddylem dybio fod y Duwdod yn debyg i aur neu arian neu faen, gwaith nadd celfyddyd a dychymyg dyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan hyny gan ein bod ni yn hiliogaeth Duw, ni ddylem dybied fod y Duwdod yn debyg i aur neu arian neu faen, o gerfiad celfyddyd a dychymyg dyn.