Acts 17:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
gan agori a’ dodi drostavv y byðei raidiol y Christ ddy oðef, a’ chyfody o veirw: a’ hwn yw ’r Iesu Christ, yr hwn, eb yr ef, ydd wyf yn ei precethy ychwy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a thri Sabbath yr ymresymmodd â hwynt allan o’r Ysgrythyrau, gan agoryd a dodi ger eu bronau yr oedd rhaid i Grist ddioddef a chyfodi o feirw, ac mai Hwn yw y Crist, yr Iesu, yr Hwn yr wyf fi yn ei fynegi i chwi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan esbonio a dyfynnu profion bod yn rhaid i’r Crist ddioddef a chyfodi o feirw, ac mai “dyma’r Crist, — yr Iesu a gyhoeddaf fi i chwi.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan egluro a dodi ger eu bronnau, mai rhaid oedd i Grist ddioddef, a chyfodi oddi wrth y meirw; ac mai hwn yw'r Crist Iesu, yr hwn yr wyf fi yn ei bregethu i chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dangosodd iddyn nhw'n glir a phrofi fod rhaid i'r Meseia ddioddef, a dod yn ôl yn fyw ar ôl marw. “Yr Iesu dw i'n sôn amdano ydy'r Meseia,” meddai wrthyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
gan esbonio a phrofi fod yn rhaid i'r Meseia ddioddef a chyfodi oddi wrth y meirw. Byddai'n dweud, "Hwn yw'r Meseia Iesu, yr hwn yr wyf fi'n ei gyhoeddi i chwi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan agoryd a gosod allan fod yn rhaid i'r Crist ddyoddef, a chyfodi drachefn o feirw, ac, meddai, Hwn yw y Crist Iesu, yr hwn yr wyf yn ei gyhoeddi i chwi.