Acts 17:31 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
o bleit iðo ’osot dydd yn yr hwn y bairn ef y byt yn‐cyfiawnder, can y gwr hvvnvv yr vn a dervynodd ef, a’ rhoðy diogelwch y pawp, am iddo y gyfody ef o veirw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
edifarhau, canys gosododd ddydd yn yr hwn y mae Efe ar fedr barnu’r byd mewn cyfiawnder trwy’r dyn a appwyntiodd Efe; a sicrwydd a roes Efe i bawb, gan Ei adgyfodi Ef o feirw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
am iddo osod diwrnod y barn ef y byd mewn cyfiawnder trwy ŵr a benododd, ac fe roes brawf i bawb wrth ei atgyfodi o feirw.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oherwydd iddo osod diwrnod yn yr hwn y barna efe y byd mewn cyfiawnder, trwy y gŵr a ordeiniodd efe; gan roddi ffydd i bawb, oherwydd darfod iddo ei gyfodi ef oddi wrth y meirw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae e wedi dewis diwrnod pan fydd y byd i gyd yn cael ei farnu. Bydd y farn yna'n gwbl deg. Mae wedi dewis dyn i wneud y barnu, ac mae wedi dangos yn glir ei fod yn mynd i wneud hyn drwy ddod â'r dyn hwnnw yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
oblegid gosododd ddiwrnod pryd y bydd yn barnu'r byd mewn cyfiawnder, trwy u373?r a benododd, ac fe roes sicrwydd o hyn i bawb trwy ei atgyfodi ef oddi wrth y meirw."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
o herwydd iddo osod diwrnod, yn yr hwn y mae ar fedr barnu y byd mewn cyfiawnder trwy Wr yr hwn a benododd efe, wedi rhoddi prawf i bawb, gan ei gyfodi ef o feirw.