Acts 17:34 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ rryw wyr a ddy lynesont wrth Paul, ac a credesont: ym‐plith pa rei ydd oedd Denis Areopagita, a’ gwreic a enwit Damaris, ac er‐ eill y gyd a hwy nt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond rhai dynion a lynasant wrtho ac a gredasant, ymhlith y rhai yr oedd Dionusius yr Areopagiad, a gwraig a’i henw Damaris hefyd, ac eraill gyda hwynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond ymlynodd rhai gwŷr wrtho a chredu, ac yn eu plith Dionysius, aelod o’r Areopagus, a gwraig a’i henw Damaris, ac eraill gyda hwynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr rhai gwŷr a lynasant wrtho, ac a gredasant: ymhlith y rhai yr oedd Dionysius yr Areopagiad, a gwraig a'i henw Damaris, ac eraill gyda hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedd rhai wedi credu beth roedd Paul yn ei ddweud a dechrau ei ddilyn. Roedd hyd yn oed un oedd yn aelod o gyngor yr Areopagus, sef Dionysiws; a gwraig o'r enw Damaris, a nifer o bobl eraill hefyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond ymlynodd rhai pobl wrtho, a chredu, ac yn eu plith Dionysius, aelod o lys yr Areopagus, a gwraig o'r enw Damaris, ac eraill gyda hwy.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ond rhai gwyr a lynasant wrtho, ac a gredasant: yn mhlith y rhai hefyd yr oedd Dionysius yr Areopagiad a gwraig o'r enw Damaris, ac eraill gyda hwynt.