Acts 17:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Anid yr Iuddaeon a’r nid oeð en yn credy, yn gwynvydy, a gymer e sont atwynt ryw grwydyrddynion o ddehirwyr, ac wedy yddwyut gynnull y tyrfa, tervyscy yr dinas a wnaethant, a dygyrchy t u y Iason, a’ cheisiaw y dwyn hwy allan at y popul.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r Iwddewon yn eiddigus, ac wedi cymmeryd attynt o’r gwerinos ryw ddynion drwg, ac wedi casglu tyrfa, a gynnyrfasant y ddinas; ac wedi ymosod ar dŷ Iason, ceisient hwynt er mwyn eu dwyn at y bobl.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond cenfigennodd yr Iddewon, ac wedi cael gafael ar rai dyhirod o blith segurwyr y sgwâr a chasglu torf, peri terfysg a wnaent yn y ddinas; ac ymosodasant ar dŷ Iason, a cheisio eu dwyn hwynt allan ger bron y bobl.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr yr Iddewon y rhai oedd heb gredu, gan genfigennu, a gymerasant atynt ryw ddynion drwg o grwydriaid; ac wedi casglu tyrfa, hwy a wnaethant gyffro yn y ddinas, ac a osodasant ar dŷ Jason, ac a geisiasant eu dwyn hwynt allan at y bobl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedd arweinwyr yr Iddewon yn genfigennus; felly dyma nhw'n casglu criw o ddynion oedd yn loetran yn sgwâr y farchnad a'u cael i ddechrau codi twrw yn y ddinas. Dyma nhw'n mynd i dŷ Jason i chwilio am Paul a Silas er mwyn dod â nhw allan at y dyrfa.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond cenfigennodd yr Iddewon, ac wedi cael gafael ar rai dihirod o blith segurwyr y sgwr, a'u casglu'n dorf, dechreusant greu terfysg yn y ddinas. Ymosodasant ar du375? Jason, a cheisio dod Paul a Silas allan gerbron y dinasyddion.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr yr Iuddewon, gan genfigenu, a chymeryd atynt ryw ddynion drwg o'r gwehilion, ac wedi casglu tyrfa, hwy a osodasant y ddinas mewn terfysg; a chan ymosod ar dŷ Jason, hwy a'u ceisiasant, er eu dwyn allan at y bobl.