Acts 17:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr pryd na vedresont ei caffael, wy luscesont Iason a’ rryw vroder at pennaethieit y dinas, gan lefain, Yr ei hyn ysydd yn dadymchwel llywodraeth y byd, a’ ll’yma ynt wy,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan na chawsant hwynt, llusgasant Iason a rhai o’r brodyr ger bron llywodraethwyr y ddinas, gan floeddio, Y rhai sy’n troi’r byd a’i waelod i fynu, y rhai hyn a ddaethant yma hefyd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan nas cawsant hwynt dechreuasant lusgo Iason a rhai brodyr o flaen y Politarchiaid, gan lefain, “Y rhain, a droes y byd wyneb i waered, yma hefyd y deuthant,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan na chawsant hwynt, hwy a lusgasant Jason, a rhai o'r brodyr, at benaethiaid y ddinas, gan lefain, Y rhai sydd yn aflonyddu'r byd, y rhai hynny a ddaethant yma hefyd;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond ar ôl methu dod o hyd iddyn nhw, dyma nhw'n llusgo Jason a rhai o'r Cristnogion eraill o flaen swyddogion y ddinas. Roedden nhw'n gweiddi: “Mae'r dynion sydd wedi bod yn codi twrw ar hyd a lled y byd wedi dod i'n dinas ni,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond wedi methu dod o hyd iddynt hwy, llusgasant Jason a rhai credinwyr o flaen llywodraethwyr y ddinas, gan weiddi, "Y mae aflonyddwyr yr Ymerodraeth wedi dod yma hefyd,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan na chawsant hwynt, llusgasant Jason a rhai brodyr gerbron Llywodraethwyr y ddinas, gan waeddi, Y rhai sydd yn chwyl‐droi y byd ydynt bresenol yma hefyd;