Acts 18:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac val ydd oedd Paul ar gyngyt y agory ei enae, y dyvot Gallio wrth yr Iuddaeon, Petei am vvneythy’r cam, ai drucweithred, a Iuddeon, erwydd rheswm eich gwrandawn:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A Paul ar fedr agoryd ei enau, dywedodd Galio wrth yr Iwddewon, Pe bai rhyw anghyfiawnder neu anfadrwydd drwg, O Iwddewon, wrth reswm y cyd-ddygaswn â chwi;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan oedd Paul ar agoryd ei enau, fe ddywedodd Galio wrth yr Iddewon, “Pe buasai ryw gamwedd neu drosedd ysgeler, Iddewon, rhesymol fuasai imi ymddwyn â chwi;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel yr oedd Paul yn amcanu agoryd ei enau, dywedodd Galio wrth yr Iddewon, Pe buasai gam, neu ddrwg weithred, O Iddewon, wrth reswm myfi a gyd‐ddygaswn â chwi:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond cyn i Paul gael cyfle i gyflwyno ei amddiffyniad, dyma Galio yn dweud wrth yr Iddewon: “Petaech chi Iddewon yn dod â'r dyn yma o flaen y llys am gamymddwyn neu gyflawni rhyw drosedd difrifol, byddwn i'n caniatáu i'r achos fynd yn ei flaen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan oedd Paul ar agor ei enau, dywedodd Galio wrth yr Iddewon, "Pe bai yn fater o drosedd neu gamwedd ysgeler, byddwn wrth reswm yn rhoi gwrandawiad i chwi, Iddewon;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Paul ar fedr agoryd ei enau, dywedodd Gallio wrth yr Iuddewon, Pe buasai yn wir yn fater o gam neu o ddrwg ystryw, O Iuddewon, wrth reswm mi a gyd‐ddygaswn a chwi;