Acts 18:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
eithyr a’s gorchest yw am ymadrodd, ac enwae, ac o eich Deddyf, edrychwch eich hunain arnavv: can na bydda vi vrawdwr ar y pethae hynny.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond os cwestiynnau y sydd am air ac enwau a’r Gyfraith sydd yn eich plith chwi, edrychwch eich hunain, canys barnwr y pethau hyn nid ewyllysiaf fi fod:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond os cwestiynau y sydd ynghylch ymadrodd ac enwau a’ch cyfraith chwi, edrychwch eich hunain. Ni chwenychaf fi fod yn farnwr am y pethau hyn.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr os y cwestiwn sydd am ymadrodd, ac enwau, a'r ddeddf sydd yn eich plith chwi, edrychwch eich hunain; canys ni fyddaf fi farnwr am y pethau hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond y cwbl sydd yma ydy dadl am sut i ddehongli manion eich Cyfraith chi. Felly ewch i ddelio gyda'r mater eich hunain. Dw i'n gwrthod barnu'r achos.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond gan mai dadleuon yw'r rhain ynghylch geiriau ac enwau a'ch Cyfraith arbennig chwi, cymerwch y cyfrifoldeb eich hunain. Nid oes arnaf fi eisiau bod yn farnwr ar y pethau hyn."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
eithr os cwestiynau ydynt am Ymadrodd ac Enwau a Chyfraith sydd yn perthyn i chwi, edrychwch eich hunain: ni ewyllysiaf fi fod yn farnwr y pethau hyn.