Acts 18:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y Groegwyr oll a gymersont Sosth e nes yr Archsynagogwr, ac ei baeddesont ger bron y vrawdle: ac nid oedd Gallio yn gofaly am ddim o’r pethae hynny.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phawb o honynt wedi cymmeryd gafael ar Sosthenes yr arch-sunagogydd, a’i curent ef o flaen y frawd-faingc; ac am ddim o’r pethau hyn nid oedd waeth gan Galio.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chymerasant afael bawb yn Sosthenes, yr archsynagogydd, a’i guro o flaen y frawdle; ac ni faliai Galio ddim am y pethau hyn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r holl Roegwyr a gymerasant Sosthenes yr archsynagogydd, ac a'i curasant o flaen y frawdle. Ac nid oedd Galio yn gofalu am ddim o'r pethau hynny.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y tu allan i'r llys dyma griw o bobl yn gafael yn Sosthenes, arweinydd y synagog, a'i guro. Ond doedd Galio ddim fel petai'n poeni dim.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna gafaelodd pawb yn Sosthenes, arweinydd y synagog, a'i guro yng ngu373?ydd y llys. Ond nid oedd Galio yn poeni dim am hynny.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwynt oll, wedi cymeryd gafael yn Sosthenes, yr Arch‐synagogydd, a'i curasant ef o flaen y frawdle. Ac nid oedd Gallio yn gofalu am ddim o'r pethau hyn.