Acts 18:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno yd aeth ef i Ephesus, ac y gadawdd wynt ynaw: ac ef e aeth y mywn ir Synagog ac a ddadleuodd a’r Iuddaeon.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A daethant i Ephesus, a hwynt-hwy a adawodd efe yno; ond efe ei hun, wedi myned i mewn i’r sunagog,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chyraeddasant Effesus, ac fe’u gadawodd hwynt yno, ac aeth yntau i mewn i’r synagog ac annerch yr Iddewon.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddaeth i Effesus, ac a'u gadawodd hwynt yno; eithr efe a aeth i'r synagog, ac a ymresymodd â'r Iddewon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl glanio yn Effesus, gadawodd Paul Priscila ac Acwila yno. Ond tra roedd yno aeth i drafod gyda'r Iddewon yn y synagog.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan gyraeddasant Effesus, gadawodd hwy yno, a mynd ei hun i mewn i'r synagog ac ymresymu 'r Iddewon.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a gyrhaeddasant i Ephesus, ac efe a'u gadawodd hwynt yno: eithr efe ei hun a aeth i mewn i'r Synagog, ac a ymresymodd a'r Iuddewon;