Acts 18:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac y cafas nebun Iddew, aei enw Aquila, y anesit ym‐Pontus, wedy dyvot yn hwyr o amser o’r Ital a’ ei wraic Priscilla (can ys gorchymynesei Claudius bot ir oll Iuddaeon ady Ruuain) ac ef a ddaeth atwynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac wedi cael rhyw Iwddew a’i enw Acwila, un o Pontus o genedl, ac newydd ddyfod o’r Ital, a Priscila ei wraig ef (am orchymyn o Claudias ymadael o’r holl Iwddewon o Rufain), yr aeth attynt;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daeth o hyd i ryw Iddew, a’i enw Acwila, o Bontus o ran cenedl, gŵr oedd newydd ddyfod o’r Eidal gyda’i wraig, Priscila, oherwydd gorchymyn Clawdius i’r holl Iddewon ymadael o Rufain; ac aeth atynt,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddo gael rhyw Iddew a'i enw Acwila, un o Pontus o genedl, wedi dyfod yn hwyr o'r Ital, a'i wraig Priscila, (am orchymyn o Claudius i'r Iddewon oll fyned allan o Rufain,) efe a ddaeth atynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yno dyma fe'n cyfarfod Iddew o'r enw Acwila oedd yn dod yn wreiddiol o Pontus. Roedd Acwila a'i wraig Priscila wedi symud i Corinth o'r Eidal ychydig cyn hyn, am fod yr ymerawdwr Clawdiws Cesar wedi gorchymyn fod pob Iddew i adael Rhufain.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A daeth o hyd i Iddew o'r enw Acwila, brodor o Pontus, gu373?r oedd newydd ddod o'r Eidal gyda'i wraig, Priscila, o achos gorchymyn Clawdius i'r holl Iddewon ymadael Rhufain. Aeth atynt,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac wedi iddo gael rhyw Iuddew o'r enw Acwila, un o Pontus o genedl, wedi newydd ddyfod o'r Eidal, a Priscilla ei wraig, am orchymyn o Claudius i'r holl Iuddewon ymadael o Rufain, efe a ddaeth atynt.