Acts 18:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
anid cany yn iach yddwynt, gan ddywedyt, Y mae yn angenrait i mi gadw yr wyl hon ’sy yn dyvot yn‐Caerusalem: eithr mi ymchwelaf atoch dragefyn, gyd ac ewyllys Dew. Ac velly yr hwyliawdd ef o ywrth Ephesus.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
eithr wedi canu’n iach iddynt a dywedyd, Dychwelaf trachefn attoch, os myn Duw, hwyliodd ymaith o Ephesus.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
eithr wedi canu’n iach a dywedyd, “Dychwelaf yn fy ôl atoch, os Duw a’i myn,” hwyliodd o Effesus.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr efe a ganodd yn iach iddynt, gan ddywedyd, Y mae'n anghenraid i mi gadw'r ŵyl sydd yn dyfod yn Jerwsalem; ond os myn Duw, mi a ddeuaf yn fy ôl atoch chwi drachefn. Ac efe a aeth ymaith o Effesus.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond wrth adael addawodd iddyn nhw, “Bydda i'n dod nôl atoch chi os Duw a'i myn.” Felly hwyliodd Paul yn ei flaen o Effesus,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond wedi ffarwelio gan ddweud, "Dychwelaf atoch eto, os Duw a'i myn", hwyliodd o Effesus.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ond gan ganu yn iach iddynt, a dywedyd, Drachefn mi a ddychwelaf atoch, os Duw a'i myn, hwyliodd ymaith o Ephesus.