Acts 18:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan ðescenawdd ef y Caisareia, ef a escennodd y vyny y Caerusalem, ac wedy iddaw gyfarch‐gwell ir Eccles, e ddescennawdd i Antiocheia.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi dyfod i wared i Cesarea, a myned i fynu a chyfarch yr eglwys, aeth i wared i Antiochia.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi cyrraedd Cesarea, aeth i fyny a chyfarchodd yr eglwys; yna aeth i lawr i Antiochia,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddo ddyfod i waered i Cesarea, efe a aeth i fyny ac a gyfarchodd yr eglwys, ac a ddaeth i waered i Antiochia.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a chyrraedd Cesarea. Yna aeth i ymweld â'r eglwys yn Jerwsalem cyn mynd yn ei flaen i'w eglwys gartref yn Antiochia Syria.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi glanio yng Nghesarea, aeth i fyny a chyfarchodd yr eglwys. Yna aeth i lawr i Antiochia,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan laniodd efe yn Cesarea, a myned i fyny a chyfarch yr eglwys, efe a aeth i waered i Antioch.