Acts 18:23 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wedy iddo drigo ynavv amcan o amser, ef aeth ymaith, gan or ymddeith drwy Galatia ac Phrygia erwydd cylch grefn, gan gadarnhay yr oll discipulon.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi treulio talm o amser, yr aeth ymaith, gan dramwy mewn trefn, trwy wlad Galatia a Phrugia, gan gadarnhau yr holl ddisgyblion.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac wedi treulio peth amser aeth ymaith, gan deithio trwy wlad Galatia a Phrygia o’r bron, a chadarnhau yr holl ddisgyblion.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddo dreulio talm o amser efe a aeth ymaith, gan dramwy trwy wlad Galatia, a Phrygia, mewn trefn, a chadarnhau yr holl ddisgyblion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl aros yn Antiochia am dipyn, aeth i ymweld â'r eglwysi yn ardal Galatia a Phrygia unwaith eto, a chryfhau ffydd y Cristnogion yno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac wedi treulio peth amser yno, aeth ymaith, a theithio o le i le trwy wlad Galatia a Phrygia, gan gadarnhau'r holl ddisgyblion.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddo dreulio talm o amser, efe a aeth ymaith, gan fyned trwy wlad Galatia a Phrygia mewn trefn, gan gadarnhau yr holl ddysgyblion.