Acts 18:24 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac nebun Iuddew, Apollos ei enw, a’r a anesit yn Alexandria, a ðaeth i Ephesus, gvvr hyawdyl a’ nerthawc yn yr Scrythurae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A rhyw Iwddew a’i enw Apolos, Alecsandriad o genedl, gŵr dysgedig, a ddaeth i Ephesus, ac yntau yn alluog yn yr Ysgrythyrau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daeth i Effesus ryw Iddew, a’i enw Apolos, Alecsandriad o enedigaeth, gŵr diwylliedig, galluog yn yr ysgrythurau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr rhyw Iddew, a'i enw Apolos, Alexandriad o genedl, gŵr ymadroddus, cadarn yn yr ysgrythurau, a ddaeth i Effesus.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn y cyfamser roedd rhyw Iddew o'r enw Apolos wedi mynd i Effesus. Roedd yn dod yn wreiddiol o Alecsandria — dyn galluog, hyddysg iawn yn yr ysgrifau sanctaidd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth rhyw Iddew o'r enw Apolos i Effesus. Brodor o Alexandria ydoedd, a gu373?r huawdl, cadarn yn yr Ysgrythurau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A rhyw Iuddew, o'r enw Apollos, Alexandriad o genedl, gwr ymadroddus, a ddaeth i Ephesus, gan fod yn alluog yn yr Ysgrythyrau: