Acts 18:25 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Hwn oedd wedy ei addyscy ar ffordd yr Arglwydd, ac a ymðiddanawdd yn vrwd yn yr Yspryt, ac a ddyscawð yddvvynt yn ddiyscaelus bethae yr Arglwyð, ac nywyddiat amyn Batydd Ioan yn vnic.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Hwn oedd wedi ei ddysgu yng nghrefydd yr Arglwydd; ac yn wresog yn yr yspryd, llefarai a dysgai yn fanwl y pethau ynghylch yr Iesu, heb wybod ond bedydd Ioan.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr oedd hwn wedi ei addysgu yn Ffordd yr Arglwydd, ac yn frwd ei ysbryd llefarai a dysgai yn fanwl y pethau am yr Iesu, gan wybod yn unig am fedydd Ioan.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hwn oedd wedi dechrau dysgu iddo ffordd yr Arglwydd: ac efe yn wresog yn yr ysbryd, a lefarodd, ac a athrawiaethodd yn ddiwyd y pethau a berthynent i'r Arglwydd, heb ddeall ond bedydd Ioan yn unig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd wedi dysgu am yr Arglwydd Iesu, ac yn siarad yn frwd iawn amdano. Roedd beth oedd e'n ei ddysgu am Iesu yn ddigon cywir, ond dim ond bedydd Ioan oedd e'n gwybod amdano.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd hwn wedi ei addysgu yn Ffordd yr Arglwydd, ac yn frwd ei ysbryd yr oedd yn llefaru ac yn dysgu yn fanwl y ffeithiau am Iesu, er mai am fedydd Ioan yn unig y gwyddai.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yr hwn oedd wedi ei egwyddori yn ffordd yr Arglwydd; a chan fod yn danbaid yn yr yspryd llefarai a dysgai yn gywir y pethau am yr Iesu, gan fod yn gydnabyddus a Bedydd Ioan yn unig.