Acts 18:26 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ðechreawdd ymadrodd yn hyf yn y Synagog. Yr hwn pan glywsant Aquila ac Priscilla, wy y cymersont ef atwynt, ac a esponiesont iddaw ffordd Ddew yn berffeithiach.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hwn a ddechreuodd lefaru yn hyderus yn y sunagog; ac wedi ei glywed, Priscila ac Acwila a’i cymmerasant attynt, ac esponiasant yn fanylach iddo grefydd Dduw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dechreuodd hwn hefyd lefaru’n hy yn y synagog; a phan glywodd Priscila ac Acwila ef, cymerasant ef atynt ac esbonio iddo Ffordd Dduw yn fanylach.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwn a ddechreuodd lefaru yn hy yn y synagog: a phan glybu Acwila a Phriscila, hwy a'i cymerasant ef atynt, ac a agorasant iddo ffordd Duw yn fanylach.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yn siarad yn gwbl agored am y pethau yma yn y synagog. Pan glywodd Priscila ac Acwila beth oedd yn ei ddweud, dyma nhw yn ei wahodd i'w cartref ac yn esbonio ffordd Duw iddo yn fwy manwl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dechreuodd hefyd lefaru'n hy yn y synagog, a phan glywodd Priscila ac Acwila ef, cymerasant ef atynt, ac esbonio iddo Ffordd Duw yn fanylach.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Hwn hefyd a ddechreuodd lefaru yn hyf yn y Synagog: a phan glywodd Priscilla ac Acwila ef, hwy a'i cymerasant ef atynt, ac a esboniasant iddo ffordd Duw yn fwy cywir.