Acts 18:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac pan yd oedd ef aei vryt ar vynet i Achaia, y broder yn y annoc ef, a yscrivenesont at a discipulon y ew dd erbyn: ac wedy yddaw ddyvot yno, ef gymporthodd yn vawr yr ei a gredesynt drwy ’rat.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac efe yn ewyllysio tramwy i Achaia, y brodyr, gan ei annog, a ysgrifenasant at y disgyblion i’w dderbyn ef, ac efe, wedi ei ddyfod, a gynnorthwyodd lawer y rhai a gredasant trwy ras;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chan y dymunai fynd drosodd i Achaia, anogodd y brodyr ef, a sgrifennu at y disgyblion i’w roesawu. Ac wedi iddo gyrraedd cynorthwyodd lawer trwy ras ar y rhai a gredasai.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan oedd efe yn ewyllysio myned i Achaia, y brodyr, gan annog, a ysgrifenasant at y disgyblion i'w dderbyn ef: yr hwn, wedi ei ddyfod, a gynorthwyodd lawer ar y rhai a gredasant trwy ras;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cododd awydd yn Apolos i fynd i Achaia, ac roedd y credinwyr eraill yn ei gefnogi. Felly dyma nhw'n ysgrifennu llythyr at Gristnogion Achaia yn dweud wrthyn nhw am roi croeso iddo. Pan gyrhaeddodd yno roedd yn help mawr i'r rhai oedd, drwy garedigrwydd Duw, wedi dod i gredu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A chan ei fod yn dymuno mynd drosodd i Achaia, cefnogodd y credinwyr ef, ac ysgrifennu at y disgyblion, ar iddynt ei groesawu. Ac wedi iddo gyrraedd, bu'n gynhorthwy mawr i'r rhai oedd trwy ras wedi credu,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan yr oedd efe yn ewyllysio myned trosodd i Achaia, y brodyr a'i cymhellasant yn mlaen, ac a ysgrifenasant at y dysgyblion i'w roesawu ef; ac efe, wedi cyrhaedd, a gynorthwyodd lawer ar y rhai oeddent wedi credu, trwy ras;