Acts 18:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan ddaethesei Silas ac Timotheus o Macedonia, yð ymloscoð Paul yn yr yspryt, gan testiaw ir Iuddeon may Iesu yt oeð y Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan ddaeth Silas a Timotheus hefyd o Macedonia, yn y Gair y cadwyd Paul, gan dystiolaethu i’r Iwddewon mai Iesu oedd y Crist.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan ddaeth Silas a Thimotheus i lawr o Facedonia yr oedd Paul yn ymglymedig wrth y gair, yn dwys dystiolaethu wrth yr Iddewon mai Iesu oedd y Crist.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddaeth Silas a Thimotheus o Facedonia, bu gyfyng ar Paul yn yr ysbryd, ac efe a dystiolaethodd i'r Iddewon, mai Iesu oedd Crist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl i Silas a Timotheus gyrraedd o Macedonia dyma Paul yn mynd ati i bregethu'n llawn amser, a dangos yn glir i'r Iddewon mai Iesu oedd y Meseia.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddaeth Silas a Timotheus i lawr o Facedonia, dechreuodd Paul ymroi yn llwyr i bregethu'r Gair, gan dystiolaethu wrth yr Iddewon mai Iesu oedd y Meseia.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan ddaeth Silas a Thimotheus i lawr o Macedonia, yr oedd Paul yn cael ei ddirgymhell gan y Gair, gan dystiolaethu i'r Iuddewon mai Iesu oedd y Crist.