Acts 18:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wrth vynd o hanwynt wy y wrthladd ac y gably, ef a yscytwodd ei ddillat, ac a ddyvot wrthwynt, Bit eich gwaet ar vvartha eich pēn eich hunain: ys glā vy vi: yn ol hynn ydd af vi at y Cenetloedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac a hwy yn gosod eu hunain yn ei erbyn ac yn cablu, gan ysgwyd ei ddillad, dywedodd wrthynt, Eich gwaed, ar eich pennau eich hunain y mae: glân wyf fi: o hyn allan at y cenhedloedd yr af.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac a hwy’n gwrthsefyll a chablu, fe ysgydwodd ei ddillad a dywedyd wrthynt, “Ar eich pen chwi y byddo’ch gwaed chwi; glân ydwyf fi; o hyn allan af at y Cenhedloedd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwythau gwedi ymosod yn ei erbyn, a chablu, efe a ysgydwodd ei ddillad, ac a ddywedodd wrthynt, Bydded eich gwaed chwi ar eich pennau eich hunain; glân ydwyf fi: o hyn allan mi a af at y Cenhedloedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond pan wnaethon nhw droi yn ei erbyn a dechrau ei sarhau, dyma Paul yn ysgwyd y llwch oddi ar ei ddillad fel arwydd iddyn nhw. “Arnoch chi mae'r bai am beth bynnag fydd yn digwydd i chi!” meddai, “Dw i wedi gwneud beth dw i'n gallu. O hyn ymlaen dw i'n mynd at bobl y cenhedloedd eraill.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yr oeddent hwy'n dal i'w wrthwynebu a'i ddifenwi, ac felly fe ysgydwodd ei ddillad a dweud wrthynt, "Ar eich pen chwi y bo'ch gwaed! Nid oes bai arnaf fi; o hyn allan mi af at y Cenhedloedd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac a hwy yn gosod eu hunain yn ei erbyn ac yn cablu, efe a ysgydwodd allan ei ddillad, ac a ddywedodd wrthynt, Y mae eich gwaed ar eich pen eich hun: glân wyf fi; o hyn allan af at y Cenhedloedd.