Acts 18:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ysmutawdd o dd yno, ac a aeth y mewn y duy neb vn, y enwit Iustus, y oedd yn addoly Dew, yr hwn oeð ei duy yn cyssyllty a’r Synagog.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi myned oddi yno, aeth i dŷ rhyw un a’i enw Titus Iwstus, dyn yn addoli Duw, tŷ yr hwn oedd yn cyffwrdd â’r sunagog.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A symudodd oddiyno ac aeth i dŷ un, a’i enw Titus Iwstus, a addolai Dduw; yr oedd ei dŷ yn un â’r synagog.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi myned oddi yno, efe a ddaeth i dŷ un a'i enw Jwstus, un oedd yn addoli Duw, tŷ yr hwn oedd yn cyffwrdd â'r synagog.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth Paul i aros yn nhŷ Titius Jwstus, oedd ddim yn Iddew ond oedd yn addoli Duw ac yn byw y drws nesa i'r synagog.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Symudodd oddi yno ac aeth i du375? dyn o'r enw Titius Jwstus, un oedd yn addoli Duw; yr oedd ei du375? y drws nesaf i'r synagog.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a symudodd oddiyno, ac a aeth i dy un o'r enw Titius Justus, un yn addoli Duw, ty yr hwn oedd yn cyffwrdd a'r Synagog.