Acts 18:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac Crispus yr archsynagogwr, a gredawdd yn yr Arglwydd a’ ei oll duylu: a ’llawer o’r Corinthieit wrth ei glywet, a gredesont ac a vatyddiwyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A Crispus yr arch-sunagogydd a gredodd yn yr Arglwydd ynghyda’i holl dŷ; a llawer o’r Corinthiaid, wrth glywed, a gredent ac a fedyddid.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond credodd Crispus, yr archsynagogydd, ynghyd â’i holl deulu, yn yr Arglwydd, a llawer o’r Corinthiaid wrth glywed a gredai ac a fedyddid.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Chrispus yr archsynagogydd a gredodd yn yr Arglwydd, a'i holl dŷ: a llawer o'r Corinthiaid, wrth wrando, a gredasant, ac a fedyddiwyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Crispus, arweinydd y synagog, a phawb yn ei dŷ, wedi dod i gredu yn yr Arglwydd; ac roedd llawer o bobl eraill Corinth wedi clywed Paul a dod i gredu hefyd, a chael eu bedyddio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Credodd Crispus, arweinydd y synagog, yn yr Arglwydd, ynghyd 'i holl deulu. Ac wrth glywed, credodd llawer o'r Corinthiaid a chael eu bedyddio.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Crispus yr Arch‐synagogydd a gredodd yn yr Arglwydd ynghyd a'i holl deulu; a llawer o'r Corinthiaid, wrth wrando, a gredasant ac a fedyddiwyd.