Acts 19:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
AC e ddarvu, tra yt oedd Apollos yn Corinthus, bot i Paul vynet trwy y parthae goruchelion, a dyvot i Ephesus, a’ chahel ryw ddiscipulon,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A digwyddodd, tra yr oedd Apolos yn Corinth, i Paul, wedi tramwy trwy’r parthau uchaf, ddyfod i Ephesus, a chael rhai disgyblion;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A thra oedd Apolos yng Nghorinth y tramwyodd Paul drwy’r parthau uchaf, a dyfod i Effesus, a chael rhai disgyblion;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Adigwyddodd, tra fu Apolos yng Nghorinth, wedi i Paul dramwy trwy'r parthau uchaf, ddyfod ohono ef i Effesus: ac wedi iddo gael rhyw ddisgyblion,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Tra roedd Apolos yn Corinth teithiodd Paul ar draws gwlad a chyrraedd Effesus. Yno daeth o hyd i grŵp o gredinwyr,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tra oedd Apolos yng Nghorinth, teithiodd Paul drwy'r parthau uchaf, a daeth i Effesus. Yno daeth o hyd i rai disgyblion,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A dygwyddodd, tra yr oedd Apollos yn Corinth, wedi i Paul dramwy trwy y parthau uchaf, ddyfod o hono i Ephesus, a chael rhyw ddysgyblion;