Acts 19:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A hynn a wnaethpwyt yspait dwy vlynedd, y n y bu y bawp oedd yn trigiaw yn Asia, glywed ymadroð yr Arglwyð Iesu, yr ys Iuðeon hvvy a’r Groeceit.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a hyn a fu am ddwy flynedd, fel y bu i bawb yn trigo yn Asia glywed Gair yr Arglwydd, yn Iwddewon a Groegiaid hefyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A hyn a fu am ddwy flynedd, nes i bawb a oedd yn trigo yn Asia glywed gair yr Arglwydd, Iddewon a Groegiaid.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hyn a fu dros ysbaid dwy flynedd, hyd oni ddarfu i bawb a oedd yn trigo yn Asia, yn Iddewon a Groegiaid, glywed gair yr Arglwydd Iesu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth hyn ymlaen am ddwy flynedd, nes bod pawb yn nhalaith Asia wedi clywed neges yr Arglwydd, yn Iddewon a phobl o genhedloedd eraill.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Parhaodd hyn am ddwy flynedd, nes i holl drigolion Asia, yn Iddewon a Groegiaid, glywed gair yr Arglwydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A bu hyn am ddwy flynedd, hyd oni ddarfu i bawb oedd yn trigo yn Asia glywed Gair yr Arglwydd, yn Iuddewon a Groegiaid hefyd.