Acts 19:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
yd pan ðugit y wrth y gorph ef ir cleifion, gwrsie nai napcynae, ac ymady or clefydae ywrthwynt, a’ mynet yr ysprytion drwc allan o hanwynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
fel at y cleifion y dygid ymaith oddi wrth ei gorph napcynau neu foledau, ac yr ymadawai y clefydau â hwynt, a’r ysprydion aflan a aent allan.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
hyd oni ddygid ymaith at y cleifion oddiar ei groen ef neisiedi ac arffedogau, ac fe ymadawai eu clefydau oddi wrthynt, ac âi’r ysbrydion drwg allan.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hyd oni ddygid at y cleifion, oddi wrth ei gorff ef, napgynau neu foledau; a'r clefydau a ymadawai â hwynt, a'r ysbrydion drwg a aent allan ohonynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd cleifion yn cael eu hiacháu ag ysbrydion drwg yn mynd allan ohonyn nhw pan oedd cadachau a ffedogau oedd wedi ei gyffwrdd yn cael eu cymryd atyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
byddai pobl yn dod chadachau a llieiniau oedd wedi cyffwrdd 'i groen ef, ac yn eu gosod ar y cleifion, a byddai eu clefydau yn eu gadael, a'r ysbrydion drwg yn mynd allan ohonynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
hyd oni ddygid ymaith at y cleifion oddiwrth ei gorph napcynau neu arffedogau, ac yr ymadawai y clefydau â hwynt, a'r ysprydion drwg a aent allan.