Acts 19:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno bot i rei or Iuddaeon crwydrait, consurwyr, gymeryd arnwynt enwi vch pen yr ei oedd yn perchen ogion y sprytion drwc, Enw yr Arglwydd Iesu, gan ddywedyt, Ydd ym ich consurio trvvy yr Iesu, yr hwn a precetha Paul.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chymmerodd rhai o’r Iwddewon crwydraid arnynt, consurwyr, enwi uwchben y rhai a chanddynt yr ysprydion drwg enw yr Arglwydd Iesu, gan ddywedyd, Tynghedaf chwi trwy yr Iesu yr Hwn y mae Paul yn Ei bregethu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A cheisiodd rhai o’r Iddewon a âi o gylch, swyngyfareddwyr, enwi uwch ben y rhai oedd ag ysbrydion drwg ganddynt enw yr Arglwydd Iesu, gan ddywedyd, “Tynghedaf chwi trwy yr Iesu y mae Paul yn ei bregethu.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna rhai o'r Iddewon crwydraidd, y rhai oedd gonsurwyr, a gymerasant arnynt enwi uwchben y rhai oedd ag ysbrydion drwg ynddynt, enw yr Arglwydd Iesu, gan ddywedyd, Yr ydym ni yn eich tynghedu chwi trwy yr Iesu, yr hwn y mae Paul yn ei bregethu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd grŵp o Iddewon hefyd yn mynd o gwmpas yn bwrw ysbrydion drwg allan o bobl, a dyma nhw'n ceisio defnyddio enw'r Arglwydd Iesu i ddelio gyda phobl oedd yng ngafael cythreuliaid. “Yn enw'r Iesu mae Paul yn pregethu amdano, dw i'n gorchymyn i ti ddod allan!” medden nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dyma rai o'r Iddewon a fyddai'n mynd o amgylch gan fwrw allan gythreuliaid, hwythau'n ceisio enwi enw'r Arglwydd Iesu uwch ben y rhai oedd ag ysbrydion drwg ganddynt, gan ddweud, "Yr wyf yn eich siarsio chwi yn enw Iesu, yr un y mae Paul yn ei bregethu."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A rhai hefyd o'r Iuddewon crwydrol, consurwyr, a ymgymerasant ag enwi uwchben y rhai a chanddynt yr ysprydion drwg enw yr Arglwydd Iesu, gan ddywedyd, Yr wyf yn eich tynghedu trwy yr Iesu yr hwn y mae Paul yn ei bregethu.