Acts 19:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r dyn ydd oedd yr yspryt drwc ynthaw, a gyrchawdd arnwynt, ac ei gorchvygawdd, ac a orthrechodd yn y herbyn wy, yn y chiliesont allan or tuy, yn noethion ac yn glwyfedig.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan neidio arnynt o’r dyn yn yr hwn yr oedd yr yspryd drwg, a chan feistroli ar y ddau, gorchfygodd yn eu herbyn, fel yn noethion ac yn archolledig y ffoisant o’r tŷ hwnw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac fe lamodd y dyn yr oedd yr ysbryd drwg ynddo arnynt, a’u meistroli i gyd, a gyrru arnynt, hyd nes iddynt ffoi allan o’r tŷ hwnnw yn noeth ac archolledig.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r dyn yr hwn yr oedd yr ysbryd drwg ynddo, a ruthrodd arnynt, ac a'u gorchfygodd, ac a fu drwm yn eu herbyn; hyd oni ffoesant hwy allan o'r tŷ hwnnw, yn noethion ac yn archolledig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r dyn oedd a'r ysbryd drwg ynddo yn ymosod arnyn nhw a rhoi'r fath gweir iddyn nhw i gyd nes iddyn nhw redeg allan o'r tŷ yn noeth ac yn gwaedu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma'r dyn ac ynddo'r ysbryd drwg yn llamu arnynt, a'u trechu i gyd, a'u maeddu nes iddynt ffoi o'r tu375? yn noeth a chlwyfedig.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r dyn yn yr hwn yr oedd yr yspryd drwg, a neidiodd arnynt, a feistrolodd y ddau, ac a orthrechodd yn eu herbyn, fel y ffoisant hwy allan o'r tŷ hwnw yn noethion ac yn archolledig.