Acts 19:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ hynn vu hynot gan yr oll Iuddaeon a’r Groecwyr hefyt, a’r oedd yn preswiliaw yn Ephesus, ac e ddygwyddawð ofn ar bawp o hanwynt, ac Enw yr Arglwydd Iesu a vawr h awyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hyn a fu hyspys gan yr holl Iwddewon a’r Groegiaid hefyd a breswylient yn Ephesus; a syrthiodd ofn ar yr oll o honynt, a mawrygid enw yr Arglwydd Iesu;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daeth hyn yn hysbys i’r holl Iddewon a Groegiaid oedd yn trigo yn Effesus, a syrthiodd ofn arnynt oll, a mawrygid enw yr Arglwydd Iesu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hyn a fu hysbys gan yr holl Iddewon a'r Groegiaid hefyd, y rhai oedd yn preswylio yn Effesus; ac ofn a syrthiodd arnynt oll, ac enw yr Arglwydd Iesu a fawrygwyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Clywodd pawb yn Effesus beth oedd wedi digwydd — yr Iddewon a phawb arall. Daeth ofn drostyn nhw i gyd, ac roedd enw'r Arglwydd Iesu yn cael ei barchu fwy fyth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth hyn yn hysbys i'r holl Iddewon a Groegiaid oedd yn byw yn Effesus, a dychrynodd pawb; a chafodd enw'r Arglwydd Iesu ei fawrygu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hyn a aeth yn hyspys i bawb, Iuddewon a Groegiaid hefyd, y rhai oedd yn preswylio yn Ephesus, ac ofn a syrthiodd arnynt oll, ac enw yr Arglwydd Iesu a fawrygwyd.