Acts 19:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
a’ dywedyt wrthwynt, A dd erbyniesoch yr Yspryt glā er pan gredesoch? Ac wy theu a ddywed e sont wrthaw, Ny wnaetham ni cymeint a chlywet a oes Yspryt glan.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a dywedodd wrthynt, A dderbyniasoch chwi yr Yspryd Glân wrth gredu? A hwy a ddywedasant wrtho, Eithr ni chlywsom ddim a oes Yspryd Glân.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac fe ddywedodd wrthynt, “A dderbyniasoch yr Ysbryd Glân, pan gredasoch?” Meddent hwythau wrtho, “Ond ni chlywsom hyd yn oed a oes Ysbryd Glân.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Efe a ddywedodd wrthynt, A dderbyniasoch chwi yr Ysbryd Glân er pan gredasoch? A hwy a ddywedasant wrtho, Ni chawsom ni gymaint â chlywed a oes Ysbryd Glân.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a gofynnodd iddyn nhw, “Wnaethoch chi dderbyn yr Ysbryd Glân pan ddaethoch chi i gredu?” “Na,” medden nhw, “dŷn ni ddim hyd yn oed wedi clywed fod yna'r fath beth ag Ysbryd Glân!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a gofynnodd iddynt, "A dderbyniasoch yr Ysbryd Gln pan gredasoch?" Meddent hwythau wrtho, "Naddo; ni chlywsom hyd yn oed fod yna Ysbryd Gln."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac efe a ddywedodd wrthynt, A dderbyniasoch chwi yr Yspryd Glân pan gredasoch? A hwy a ddywedasant wrtho, Na, ni chawsom ni gymaint a chlywed a oes Yspryd Glân.