Acts 19:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yn awr wedy cyflawny hynn yma, y propasoð Paul trwy ’r yspryt teithiaw trwy Macedonia ac Achaia, a’ mynet i Caerusalam, can ddywedyt, Gwedy bwyf ynaw, rhait i mi hefyt welet Ruuain
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan gyflawnwyd y pethau hyn arfaethodd Paul trwy’r Yspryd, gwedi tramwy o hono trwy Macedonia ac Achaia, fyned i Ierwshalem, gan ddywedyd, Ar ol bod o honof yno, y mae rhaid i mi weled Rhufain hefyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan gyflawnwyd y pethau hyn, fe roes Paul ei fryd ar dramwy trwy Facedonia ac Achaia, ac yna cyrchu i Gaersalem; ac meddai, “Wedi i mi fod yno rhaid i mi weled Rhufain hefyd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan gyflawnwyd y pethau hyn, arfaethodd Paul yn yr ysbryd, gwedi iddo dramwy trwy Facedonia ac Achaia, fyned i Jerwsalem; gan ddywedyd, Gwedi imi fod yno, rhaid imi weled Rhufain hefyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl hyn i gyd, dyma Paul yn penderfynu fod rhaid iddo fynd i Jerwsalem, a galw heibio Macedonia ac Achaia ar ei ffordd. “Wedyn ar ôl bod yn Jerwsalem,” meddai, “mae'n rhaid i mi ymweld â Rhufain.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi i'r pethau hyn gael eu cwblhau, rhoddodd Paul ei fryd ar deithio trwy Facedonia ac Achaia, ac yna mynd i Jerwsalem. "Wedi imi fod yno," meddai, "rhaid imi weld Rhufain hefyd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan gyflawnwyd y pethau hyn, arfaethodd Paul yn yr yspryd, wedi iddo dramwy trwy Macedonia ac Achaia, fyned i Jerusalem, gan ddywedyd, Wedi i mi fod yno, rhaid i mi weled Rhufain hefyd.