Acts 19:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno yd anvones ef i Macedonia ddau o’r ei oedd yn ei weini, sef Timoth e us ac Erastus, ac ef e a aro s es yn Asia dros amser.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi danfon i Macedonia ddau o’r rhai oedd yn gweini iddo, sef Timothëus ac Erastus, efe ei hun a arhosodd rhyw faint o amser yn Asia.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac anfonodd i Facedonia ddau o’r rhai oedd yn gweini arno, Timotheus ac Erastus, eithr tariodd ef ei hun am dymor, yn Asia.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi anfon i Facedonia ddau o'r rhai oedd yn gweini iddo, sef Timotheus ac Erastus, efe ei hun a arhosodd dros amser yn Asia.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond arhosodd yn Asia am ychydig mwy, ac anfon Timotheus ac Erastus o'i flaen i Macedonia.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Anfonodd i Facedonia ddau o'r rhai oedd yn gweini arno, Timotheus ac Erastus, ond arhosodd ef ei hun am amser yn Asia.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi anfon i Macedonia ddau o'r rhai oedd yn gweini iddo, Timothëus ac Erastus, efe ei hun a ddaliodd yn mlaen beth amser yn Asia.