Acts 19:24 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys neb gwr ai enw. Demetrius, go f arian t, yr hwn a wnai demplae arian t Diana, yr hvvn oedd yn peri elw ny d bychan ir crefftwyr:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys rhyw Demetrius wrth ei enw, gof arian, yn gwneuthur temlau Diana o arian, a roddai i’r crefftwyr waith nid ychydig.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys rhyw ŵr, a’i enw Demetrius, gof arian, trwy wneuthur delwau arian o Artemis, a barai i’w grefftwyr waith lawer;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys rhyw un a'i enw Demetrius, gof arian, yn gwneuthur temlau arian i Diana, oedd yn peri elw nid bychan i'r crefftwyr;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd gof arian o'r enw Demetrius yn rhedeg busnes gwneud modelau bach o deml y dduwies Artemis, ac yn cyflogi nifer o weithwyr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd gof arian o'r enw Demetrius, un oedd yn gwneud cysegrau arian i Artemis, ac felly yn cael llawer o waith i'w grefftwyr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys rhyw Ddemetrius wrth ei enw, gôf arian, yn gwneuthur cysegrau arian o Diana, a roddai i'r crefftwyr waith nid ychydig;