Acts 19:25 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr ei wedy iddo ei galw ir vn‐lle, y gyd a gweithwyr yr cyfryw bethae, a’ ddyvot, Ha‐ wyr, ys gwyddoch may wrth y gwaith hwnn y perir caffaeliat y ni.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi casglu hwynt ynghyd, a’r rhai a weithient y fath bethau, dywedodd, Dynion, gwyddoch mai o’r gwaith hwn y mae ein helaethrwydd genym ni,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
fe gasglodd y rhai hyn ynghyd, gyda’r gweithwyr ar bethau o’r un fath, a dywedodd: “Wŷr, chwi wyddoch mai o’r fasnach hon y daw ein ffyniant ni,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai a alwodd efe, ynghyd â gweithwyr y cyfryw bethau hefyd, ac a ddywedodd, Ha wŷr, chwi a wyddoch mai oddi wrth yr elw hwn y mae ein golud ni:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Daeth â'r gweithwyr i gyd at ei gilydd, a gwahodd pobl eraill oedd â busnesau tebyg. Dwedodd wrthyn nhw, “Ffrindiau, y busnes yma ydy'n bywoliaeth ni — mae'n gwneud arian da i ni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Casglodd y rhain ynghyd, gyda'r gweithwyr o grefftau cyffelyb, a dywedodd: "Ddynion, fe wyddoch mai o'r fasnach hon y daw ein ffyniant ni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
y rhai a gynullodd efe ynghyd a'r rhai oeddent weithwyr y cyfryw bethau, ac a ddywedodd, O wyr, chwi a wyddoch mai allan o'r gwaith hwn y mae i ni lwyddiant;