Acts 19:26 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pellach chvvi welwch ac a glywch, pan yw nad yn vnic yn Ephesus, ani d can mwyaf trwy’r oll Asia yr anno h es, ac y traws droses y Paul hwnn lawer o popul, gan ddywedyt, Na d ynt wy ddewiae ’rei wnelir a dwylaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a gweled a chlywed yr ydych, y bu, nid yn unig yn Ephesus eithr bron dros yr holl Asia, i’r Paul hwn berswadio a throi ymaith lawer o bobl, gan ddywedyd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a gwelwch a chlywch nad yn Effesus yn unig eithr bron drwy holl Asia yr enillodd y Paul hwn dyrfa fawr, a’u troi hwynt, drwy ddywedyd, ‘y duwiau o waith dwylo, nid duwiau monynt.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Chwi a welwch hefyd ac a glywch, nid yn unig yn Effesus, eithr agos dros Asia oll, ddarfod i'r Paul yma berswadio a throi llawer o bobl ymaith, wrth ddywedyd nad ydyw dduwiau y rhai a wneir â dwylo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond, fel dych chi'n gwybod, mae'r dyn Paul yma wedi llwyddo i berswadio lot fawr o bobl bod y delwau dŷn ni'n eu gwneud ddim yn dduwiau o gwbl mewn gwirionedd. Mae wedi gwneud hyn, dim yn unig yma yn Effesus, ond bron drwy dalaith Asia i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr ydych hefyd yn gweld ac yn clywed fod y Paul yma wedi perswadio tyrfa fawr, nid yn Effesus yn unig ond drwy Asia gyfan bron, a'u camarwain drwy ddweud nad duwiau mo'r duwiau o waith llaw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a chwi a welwch ac a glywch, nid yn unig yn Ephesus, eithr bron drwy holl Asia, i'r Paul hwn ddarbwyllo a gŵyr‐droi lluaws mawr, gan ddywedyd nad ydyw y rhai a wneir â dwylaw yn dduwiau.