Acts 19:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yd nad yw yn vnic bot y rhann hyn yn periclus y ny ni, rrac argyhoeddy y cymeriat, eithyr hefyt rac bot am dempl y vawr ddewies Diana ei ðiystyry, a’ rac dyvot hefyt destryw ar vawrhydi hon, y mae’r oll Asia a’r byt yn hi addoli.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Nid ydynt dduwiau, y rhai a wnair â dwylaw. Ac nid yn unig y rhan hon sydd mewn perygl i ni o ddyfod i ddirmyg, eithr teml y dduwies fawr Diana hefyd sydd mewn perygl o gael ei chyfrif yn ddiddym, ac i hithau hefyd gael ei thynnu i lawr o’i mawrhydi, yr hon y mae holl Asia a’r byd yn ei haddoli.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac nid yn unig y mae perigl y daw dirmyg ar ein galwedigaeth, ond hefyd y cyfrifir cysegr y dduwies fawr Artemis yn ddiddim a hyd yn oed yr amddifedir hi o’i mawrhydi, yr hon y mae holl Asia a’r byd yn ei haddoli.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac nid yw yn unig yn enbyd i ni, ddyfod y rhan hon i ddirmyg; eithr hefyd bod cyfrif teml y dduwies fawr Diana yn ddiddim, a bod hefyd ddistrywio ei mawrhydi hi, yr hon y mae Asia oll a'r byd yn ei haddoli.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae peryg nid yn unig i'n busnes ni fynd i'r wal, ond hefyd i deml Artemis golli ei dylanwad, ac i'r dduwies fawr ei hun, sy'n cael ei haddoli ar hyd a lled Asia, golli ei statws!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn awr, y mae perygl nid yn unig y daw anfri ar ein crefft, ond hefyd y cyfrifir teml y dduwies fawr Artemis yn ddiddim, a hyd yn oed y bydd hi, y dduwies y mae Asia gyfan a'r byd yn ei haddoli, yn cael ei hamddifadu o'i mawrhydi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac nid yn unig y mae perygl fod hon, sef ein trafnidiaeth ni, yn myned yn wrthodedig, ond hefyd fod Teml y dduwies fawr Diana i gael ei chyfrif yn ddyddim, a bod hithau ar gael ei thynu i lawr o'i mawrhydi, yr hon y mae holl Asia a'r byd trigianol yn ei haddoli.