Acts 19:28 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan glywsant wy hynn, yr oeddent yn llawn digofeint, gan ddolef ain, a’ ddywedyt, Ys mawr Diana yr Ephesiait.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi clywed hyn, ac wedi myned yn llawn o ddigofaint, gwaeddasant, gan ddywedyd, Mawr yw Diana yr Ephesiaid.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan glywsant aethant yn llawn o ddicter, a gweiddi gan ddywedyd, “Mawr yw Artemis yr Effesiaid.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan glywsant, hwy a lanwyd o ddigofaint; ac a lefasant, gan ddywedyd, Mawr yw Diana'r Effesiaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth glywed beth oedd gan Demetrius i'w ddweud, dyma'r dyrfa'n cynhyrfu'n lân a dechrau gweiddi: “Artemis yr Effesiaid am byth!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan glywsant hyn, llanwyd hwy dicter, a dechreusant weiddi, "Mawr yw Artemis yr Effesiaid."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan glywsant, a myned yn llawn o ddigofaint, gwaeddasant, gan ddywedyd, Mawr yw Diana yr Ephesiaid!