Acts 19:29 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r oll ddinas a gyflawnwyt o wradwydd, a’ rhuthraw a wnaethant ir orsedd f a o gytundab, a’ dal h a Gaius, ac Aristarchus, Macedonieit, a’ chyd‐ymddeithion Paul.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A llanwyd y ddinas o’r terfysg; a rhuthrasant yn unfryd i’r chwareufa, wedi cipio Gaius ac Aristarchus, Macedoniaid, cyd-ymdeithion Paul.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A llannwyd y ddinas â’u cythrwfl, a rhuthrasant yn unfryd i’r chwareufa, wedi cipio Gaius ac Aristarchus, Macedoniaid, cydymdeithion Paul.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A llanwyd yr holl ddinas o gythrwfl: a hwy a ruthrasant yn unfryd i'r orsedd, gwedi cipio Gaius ac Aristarchus o Facedonia, cydymdeithion Paul.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cyn bo hir roedd y ddinas i gyd yn ferw gwyllt. Dyma nhw'n dal Gaius ac Aristarchus (dau o Macedonia oedd wedi bod yn teithio gyda Paul), a'u llusgo nhw i'r amffitheatr enfawr oedd yno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Llanwyd y ddinas 'u cynnwrf, a rhuthrasant yn unfryd i'r theatr, gan lusgo gyda hwy gyddeithwyr Paul, y Macedoniaid Gaius ac Aristarchus.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r ddinas a lanwyd â'r terfysg; a rhuthrasant yn unfryd i'r chwareu‐dy, wedi cipio gyda hwynt Gaius ac Aristarchus, Macedoniaid, cyd‐ymdeithion Paul.