Acts 19:31 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r ei hefyt o pendevigion Asia a’r oeðent yn gereint iddo, a dd anvonesont ataw, gan ðeisyf y arnaw na’d ymddangosei yn yr ’orseð fa.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A rhai o bennaethiaid Asia, gan fod yn gyfeillion iddo, wedi danfon atto, a ddeisyfient arno beidio â myned i’r chwareufa.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A rhai hyd yn oed o’r Asiarchiaid, a hwy’n gyfeillion iddo, a ddanfonodd ato i ddymuno arno na fentrai i’r chwareufa.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Rhai hefyd o benaethiaid Asia, y rhai oedd gyfeillion iddo, a yrasant ato, i ddeisyf arno, nad ymroddai efe i fyned i'r orsedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma hyd yn oed rhai o swyddogion y dalaith roedd Paul yn ffrindiau â nhw yn anfon neges ato i bwyso arno i beidio mentro i mewn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a hefyd anfonodd rhai o uchel-swyddogion Asia, a oedd yn gyfeillgar ag ef, neges ato i erfyn arno beidio mentro i'r theatr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A rhai hefyd o'r Asiarchiaid, y rhai oeddent gyfeillion iddo, gan anfon ato a ddeisyfent arno nad anturiai, fyned i'r chwareu‐dŷ.