Acts 19:32 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr ei wrth hyny a lefent vn‐peth, ar ei peth ar all. Can ys y gynulleidfa oedd eb drefn, a’ rhan vwyaf ny wyddent o bleit pa beth yd aethent yn‐cyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Rhai, gan hyny, a waeddent un peth, ac eraill beth arall, canys yr oedd y gynnulleidfa wedi ei therfysgu, a’r rhan fwyaf ni wyddent paham y daethent ynghyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn wir, gwaeddai rhai unpeth ac eraill beth arall; canys yr oedd y gynulleidfa yn blith drafflith, ac ni wyddai’r rhan fwyaf am ba achos y deuthent ynghyd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhai a lefasant un peth, ac eraill beth arall: canys y gynulleidfa oedd yn gymysg; a'r rhan fwyaf ni wyddent oherwydd pa beth y daethent ynghyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y dyrfa oedd wedi casglu mewn anhrefn llwyr. Roedd rhai ohonyn nhw'n gweiddi un peth a rhai eraill yn gweiddi rhywbeth arall. Doedd gan y rhan fwyaf o'r bobl oedd yno ddim syniad beth oedd yn mynd ymlaen!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn y cyfamser, yr oedd rhai yn gweiddi un peth ac eraill beth arall, oherwydd yr oedd y cyfarfod mewn cynnwrf, ac ni wyddai'r rhan fwyaf i beth yr oeddent wedi dod ynghyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Rhai gan hyny a waeddent un peth ac eraill beth arall, canys yr oedd y gynulleidfa wedi ei therfysgu, a'r mwyrif ni wyddent paham y daethent ynghyd.