Acts 19:33 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r ei o’r tyrfa a luscesont canthwynt Alexander, a’r Iuddaeon yn ei wthiaw racddaw. Yno Alexander a amneidiodd a llaw, ac a vynesei escuso di y peth wrth y popul.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac allan o’r dyrfa y dygasant Alecsander, yr Iwddewon yn ei roddi ymlaen, ac Alecsander,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A thybiodd rhai o’r dyrfa mai Alecsander oedd, gan i’r Iddewon ei wthio ymlaen, a dymunai yntau, Alecsander, wedi chwifio’i law, ei amddiffyn ei hun wrth y bobl.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a dynasant Alexander allan o'r dyrfa, a'r Iddewon yn ei yrru ef ymlaen. Ac Alexander a amneidiodd â'i law am osteg, ac a fynasai ei amddiffyn ei hun wrth y bobl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma rai o'r arweinwyr Iddewig yn gwthio dyn o'r enw Alecsander i'r blaen i esbonio fod gan y cwbl ddim byd i'w wneud â'r Iddewon. Cododd yntau ei law i geisio tawelu'r dyrfa, er mwyn iddo amddiffyn enw da'r Iddewon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond tybiodd rhai o'r dyrfa mai Alexander oedd yr achos, gan i'r Iddewon ei wthio ef i'r blaen. Gwnaeth yntau arwydd 'i law, gan ddymuno ei amddiffyn ei hun wrth y dinasyddion.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr hwy a gymhellasant yn mlaen Alexander o'r dyrfa, yr Iuddewon yn ei wthio ef yn mlaen. Ac Alexander a amneidiodd â'i law, ac a fynasai wneuthur ymddiffyniad wrth y bobl.