Acts 19:35 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno yscoleic‐ y dinas gwedy iddo lonyddu ’r popul, a ddyvot, Ha‐ wyr yr Ephesieit, pa ddyn ’sydd ny wyr bot dinas yr Ephesieit yn a ddoly dd y vawr ddewies Diana, a’r ddelvv, a ðescenawdd y wrth Iupiter?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
un llef fu, gan yr oll o honynt, yn gwaeddi am ynghylch dwy awr, Mawr yw Diana yr Ephesiaid. Ac ysgrifenydd y ddinas, wedi llonyddu’r dyrfa, a ddywedodd, Gwŷr Ephesus, canys pwy sydd o ddynion na ŵyr mai dinas yr
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr wedi i’r Ysgrifennydd lonyddu’r dorf, medd ef, “Wŷr Effesus, pwy yn y byd, tybed, sydd heb wybod bod dinas yr Effesiaid yn geidwad teml Artemis fawr a’r peth a syrthiodd o’r nef?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi i ysgolhaig y ddinas lonyddu'r bobl, efe a ddywedodd, Ha wŷr Effesiaid, pa ddyn sydd nis gŵyr fod dinas yr Effesiaid yn addoli'r dduwies fawr Diana, a'r ddelw a ddisgynnodd oddi wrth Jwpiter?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Clerc y ddinas lwyddodd i dawelu'r dyrfa yn y diwedd, ac meddai: “Bobl Effesus. Mae pawb drwy'r byd i gyd yn gwybod mai yn ein dinas ni mae teml y dduwies fawr Artemis, ac mai ni sy'n gwarchod y ddelw ohoni ddaeth i lawr o'r nefoedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond tawelodd clerc y ddinas y dyrfa, a dweud, "Bobl Effesus, pwy sydd heb wybod fod dinas yr Effesiaid yn geidwad teml Artemis fawr, a'r maen a syrthiodd o'r nef?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi i'r Cofiadur lonyddu y dyrfa, dywed, O wyr Ephesus, canys pwy un yn mhlith dynion sydd na ŵyr fod Dinas yr Ephesiaid yn geidwad Diana Fawr a'r ddelw, a syrthiodd o'r Nef.