Acts 19:36 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ chan na ddygon nep ddywedyt yn erbyn y pethae hynn, iawn i chwy ymlonyddy, ac na wneloch ddim yn wylltpwyll.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ephesiaid yw ceidwad teml Diana fawr ac o’r ddelw a syrthiodd i lawr oddiwrth Iwpeter? Gan na ellir, gan hyny,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly, a’r pethau hyn yn anwadadwy, chwi ddylech fod yn llonydd heb wneuthur dim yn fyrbwyll.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chan fod y pethau hyn heb allu dywedyd i'w herbyn, rhaid i chwi fod yn llonydd, ac na wneloch ddim mewn byrbwyll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Does neb yn gallu gwadu hynny, felly mae'n bryd i chi dawelu, a pheidio gwneud dim byd byrbwyll.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, gan na all neb wadu hyn, rhaid i chwithau fod yn dawel a pheidio gwneud dim yn fyrbwyll.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan fod y pethau hyn gan hyny yn anwadadwy, chwi a ddylech fod yn dawel o'r dechreu, a pheidio gwneuthur dim yn fyrbwyll.