Acts 19:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvot Paul, Ioan yn ddiau a vatyddioð a batydd ediveirwch, can ddywedyt wrth y popul, bot yddwynt credy yn hwn a ddelei ar y ol ef, ys ef yw hyny, yn y Christ Iesu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd Paul, Ioan a fedyddiodd â bedydd edifeirwch, gan ddywedyd wrth y bobl mai yn yr Hwn oedd yn dyfod ar ei ol ef y credent, hyny yw, yn yr Iesu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd Paul, “Bedydd edifeirwch oedd bedydd Ioan, a dywedai wrth y bobl am yr hwn oedd yn dyfod ar ei ôl am iddynt gredu ynddo ef, hynny yw yn yr Iesu.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Paul, Ioan yn ddiau a fedyddiodd â bedydd edifeirwch, gan ddywedyd wrth y bobl am gredu yn yr hwn oedd yn dyfod ar ei ôl ef, sef yng Nghrist Iesu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Paul, “Bedydd i ddangos eich bod am droi cefn ar bechod oedd bedydd Ioan. Dwedodd Ioan wrth y bobl hefyd am gredu yn yr un oedd i ddod ar ei ôl, sef yn Iesu.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai Paul, "Bedydd edifeirwch oedd bedydd Ioan, ac fe ddywedodd wrth y bobl am gredu yn yr hwn oedd yn dod ar ei l ef, hynny yw, yn Iesu."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A dywedodd Paul, Ioan a fedyddiodd a bedydd edifeirwch, gan ddywedyd wrth y bobl am gredu yn yr Hwn oedd yn dyfod ar ei ol ef, hyny yw, yn yr Iesu