Acts 19:40 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys in peryclir rac ein argyhoedddy am y derbysc heddyw, erwydd nad oes vn achos y gal’wn roi rreswm am y cynnired hyn o’r popul.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
mewn cynnulleidfa gyfreithlawn y penderfynir ef. Canys yr ydym, yn wir, mewn perygl o’n cyhuddo am y terfysg heddyw, heb ddim achos o hono yn bod; ac am y peth hwn nis gallwn roddi cyfrif am yr ymgyrch hwn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn wir, y mae perigl y’n cyhuddir o derfysg ynglŷn â heddiw gan nad oes gennym un achos, ac am hyn ni allwn ni roddi cyfrif am yr ymdyrru yma.” Ac wedi iddo ddywedyd hyn, gollwng y gynulleidfa a wnaeth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oherwydd enbyd yw rhag achwyn arnom am y derfysg heddiw; gan nad oes un achos trwy yr hwn y gallom roddi rheswm o'r ymgyrch hwn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae peryg i ni gael ein cyhuddo o ddechrau reiat o achos beth sydd wedi digwydd yma heddiw. A petai hynny'n digwydd, beth fydden ni'n ei ddweud wrth yr awdurdodau? — Does dim esgus am y peth.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn wir, y mae perygl y cyhuddir ninnau o derfysg ynglu375?n 'r cyfarfod heddiw, gan nad oes dim achos amdano, ac am hynny ni allwn roi cyfrif am y cynnwrf yma."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys hyd yn nod yr ydym mewn perygl o gael ein cyhuddo o derfysg am y dydd heddyw, heb ddim achos o'r dechreu, am yr hwn ni fyddwn alluog i roddi rheswm, sef am yr ymgyrch hwn.