Acts 19:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr pan yt oeð yr ei wedy ei caledy ei calonæ, ac ny chredent, gan ddrweddywedyt am ffordd yr Arglwydd, ger bron y lliosogrwydd, e dynnawdd ymaith y wrthwynt, ac ef a ddidolodd y discipulon, gan ðisputo beunydd yn yscol neb vn Tyrannus.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan yr oedd rhai wedi caledu ac yn anufudd, gan ddywedyd yn ddrwg am y Grefydd ger bron y lliaws, gan sefyll draw oddi wrthynt neillduodd efe y disgyblion, gan ymresymmu beunydd yn ysgol Turannus:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond gan fod rhai yn ymgyndynnu ac yn anghredu, gan ddifrïo’r Ffordd yng ngŵydd y lliaws, ymneilltuo a wnaeth oddiwrthynt, a gwahanu ei ddisgyblion; a siaradai beunydd yn ysgol Tyrannus.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr pan oedd rhai wedi caledu, ac heb gredu, gan ddywedyd yn ddrwg am y ffordd honno gerbron y lliaws, efe a dynnodd ymaith oddi wrthynt, ac a neilltuodd y disgyblion; gan ymresymu beunydd yn ysgol un Tyrannus.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma rhai ohonyn nhw'n troi'n ystyfnig — yn lle credu roedden nhw'n dechrau siarad yn erbyn Ffordd yr Arglwydd Iesu o flaen pawb. Felly dyma Paul yn eu gadael nhw, a mynd â'r credinwyr eraill gydag e. Roedden nhw'n cyfarfod yn narlithfa Tyranus i wrando ar Paul yn dysgu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond gan fod rhai yn ymgaledu ac yn gwrthod credu, ac yn difenwi'r Ffordd yng ngu373?ydd y gynulleidfa, ymneilltuodd oddi wrthynt gan gymryd ei ddisgyblion oddi yno, a pharhau i ymresymu bob dydd yn narlithfa Tyranus.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan yr oedd rhai wedi ymgaledu ac yn anufydd, gan ddywedyd yn ddrwg am Y Ffordd gerbron y lluaws, efe a ymadawodd oddiwrthynt, ac a wahanodd y dysgyblion, gan ymresymu yn ddyddiol yn Ysgol Tyrannus.